Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 10 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
10:00 - 12:22 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Angela Burns Jocelyn Davies Rebecca Evans Julie Morgan Lynne Neagle Jenny Rathbone Aled Roberts Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Jeff Cuthbert, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau Emma Smith, Pennaeth Cynllunio a Pherfformiad, Llywodraeth Cymru Chris Tweedale, Director, Children, Young People and Schools Effectiveness Group, Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol David Sissling, Director General for Health and Social Services, Llywodraeth Cymru Martin Swain, Llywodraeth Cymru Mark Osland, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Claire Morris (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Sian Hughes (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies.
2. Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog, y Dirprwy Weinidog a’u swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
· Gwybodaeth am y mathau o dechnoleg sy’n cael eu defnyddio yn Ysgol y Bont ar Ynys Môn i gefnogi’r gwaith o adeiladu ysgol werdd arloesol;
· Eglurhad ynghylch pa linell gyllideb sy’n ariannu’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer y radd Meistr;
· Manylion am y prosiectau sy’n cael eu gweithredu drwy’r Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig, y grant ar gyfer addysg plant Sipsiwn a phlant Teithwyr a’r Grant Trechu Dadrithiad;
· Gwybodaeth ynghylch a yw unrhyw awdurdodau lleol wedi penderfynu peidio â gwneud cais am y grant ar gyfer addysg plant Sipsiwn a phlant Teithwyr ac wedi tynnu gwasanaethau yn ôl o ganlyniad i hynny.
3. Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog, y Dirprwy Weinidog a’u swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd y Gweinidog Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
· Gwybodaeth ynghylch a oes unrhyw adnoddau ar gael drwy’r rhaglen Law yn Llaw at Iechyd Meddwl i ddatblygu rhaglenni datblygu sy’n briodol i wahanol oedrannau ar gyfer staff rheng flaen, a hynny mewn perthynas â chanfod a rheoli anhwylderau diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd;
· Gwybodaeth ynghylch a yw unrhyw adnoddau ychwanegol wedi’u dyrannu ar gyfer gweithredu Cynllun Cenedlaethol Cymru ar gyfer Iechyd y Geg, a hynny mewn perthynas â phlant a phobl ifanc yn benodol.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r cyfarfod ar 18 Hydref
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
5. Ystyried y dystiolaeth
5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.